Newyddion
At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu
Y mis hwn, cyhoeddir Powell (Y Lolfa) gan Manon Steffan Ros. Nofel yw hon am hogyn ifanc, Elis, sy’n olrhain hen achau ei gyn-deidiau drwy ymchwilio i’w goeden deulu. Fel un sydd wastad wedi arddel balchder o fod yn un o’r Powells, sylfaenwyr ei dref, ergyd yw’r hyn a ddaw i’r wyneb am hanes haenog a chymhleth ei deulu darllen mwy
Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd
Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr i baratoi ar gyfer ymgyrch gyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958. Wedi ei ysgrifennu gan y sylwebydd a’r cyflwynydd Dylan Ebenezer, mae’r gyfrol yn baratoad delfrydol i gefnogwyr, o bob oedran, sydd am wybod mwy am y gwrthwynebwyr, y wlad a’r sêr i’w dilyn. darllen mwy
Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Nofel gyfoes sy'n codi cwestiynau am Gymru, y Gymraeg a chenedlaetholdeb
Pwy fydden ni heb gyfyngiadau cymdeithas? Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Ydi cenedl heb iaith wir yn genedl heb galon? Dyna rai o’r cwestiynau mae Cwlwm gan Ffion Enlli, a gyhoeddir gan wasg y Lolfa, yn eu gofyn. darllen mwy
Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd
Yr wythnos hon, cyhoeddir y llyfr y ceir ei ystyried fel y nofel Gymraeg orau erioed, Un Nos Ola Leuad, mewn fformat newydd wedi ei ailgysodi a’i gyhoeddi fel e-lyfr am y tro cyntaf erioed, gan wasg Y Lolfa. Mi fydd y llyfr hefyd yn cynnwys nifer bychan o gywiriadau y bwriadodd Caradog Prichard eu cael yn y fersiwn wreiddiol gan wasg Gee yn 1961, ond na gynhwyswyd tan nawr. darllen mwy
Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!
nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, cyhoeddir Ein Urdd Ni gan Mari Emlyn (y Lolfa) – yr anrheg perffaith i’r hosan Nadolig. Yn y llyfr lloffion hwn, clywir gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru am y rhan y mae’r mudiad wedi ei chwarae yn eu bywydau. Ochr yn ochr â lluniau personol, cyflwynir pytiau o brofiadau amrywiol er mwyn cael cipolwg ysgafn a gwahanol i’r arfer o weithgaredd a gwerth yr Urdd. darllen mwy
Dathlu'r byd a'i ryfeddodau
Mae Byd Bach Dy Hun gan Sioned Medi Evans yn llyfr sy’n dod â sawl peth hynod am y byd at ei gilydd mewn un lle, ac yn troi’r cymhlethdod mawr yn rhywbeth syml, hawdd i’w ddeall ar gyfer plant darllen mwy
Rhoi fflach o liw ar hanes diweddar pêl-droed Cymru
Mewn cyfnod o gyffro mawr ym myd chwaraeon, mae llyfr lliwio amserol newydd am bêl-droed Cymru yn cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa. darllen mwy
Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith
Â’r Gymdeithas yn dathlu 60 mlynedd o ymgyrchu a llwyddiannau eleni, ddechrau Hydref, cyhoeddir Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith dan olygyddiaeth Dafydd Morgan Lewis gan wasg y Lolfa darllen mwy
Cyflwyno clasur Gwenno Hywyn i gynulleidfa newydd
Mae’r Lolfa newydd ailgyhoeddi Cyfrinach Betsan Morgan, un o glasuron y diweddar Gwenno Hywyn. Gwelodd Cyfrinach Betsan Morgan, sy’n nofel am deithio mewn amser, olau dydd am y tro cyntaf yng Nghyfres Corryn a bu galw mawr am ailgyhoeddi’r gyfrol o sawl tu, yn cynnwys gwefan Sôn am Lyfra, oedd yn nodi fod y nofel lawn cystal heddiw ag oedd hi yn 1986. darllen mwy
Ffeindio sens pan sgen ti'm syniad
Y mis hwn, cyhoeddir Sgen i’m Syniad – Snogs, Sens, Sens (Y Lolfa) gan awdur newydd sbon, Gwenllian Ellis. Mae Sgen i’m Syniad yn llyfr gonest sy’n tynnu ar brofiadau personol ac yn dweud gwirioneddau am y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Yng ngeiriau’r awdur: ‘Dyma lyfr i unrhyw berson sydd erioed wedi cael ei alw yn “ormod”, yn “warthus” neu’n “wirion”’. darllen mwy
Cyhoeddi gohebiaeth tri Penyberth am y tro cyntaf
A hithau’n 85 mlynedd ers carcharu Valentine, D.J. a Saunders am losgi’r ysgol fomio, dyma ddadlennu llythyrau personol y tri at ei gilydd am y tro cyntaf. darllen mwy
Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!
Yn y llyfr hwn, mae tair stori newydd am Nel, gan gynnwys addasiad o’r stori yn sioe’r Pafiliwn eleni. Yma, mae Nel a’i ffrindiau yn canfod eu hunain yn ailgylchu ar faes yr Eisteddfod, ac yn dod o hyd i goeden hynod ac arbennig y mae angen iddyn nhw ei gwarchod. darllen mwy
Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru
Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth yr awdur Gareth Evans-Jones ati i gerdded o amgylch Cymru, gan ddilyn llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Cylchu Cymru ydi ffrwyth y teithiau hynny. Mae’r gyfrol yn cynnig inni fewnwelediad cryno i’r lleoliadau, ac yng ngeiriau’r awdur ei hun, mae’n cwmpasu ‘eu straeon, eu hanes, eu chwedloniaeth, a’u cyfaredd’ – a hynny drwy gyfrwng llenyddiaeth greadigol, lluniau trawiadol a dylunio lliwgar Olwen Fowler. darllen mwy
Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Ngheredigion fe gofir am un o artistiaid mwyaf amryddawn Cymru a dreuliodd 60 mlynedd o’i oes yn ardal yr Eisteddfod. Roedd Ogwyn Davies yn dalent unigryw, yn arlunydd a ddarluniodd olygfeydd ysblennydd a lleoliadau nodedig fel Soar y Mynydd. Roed hefyd yn wladgarwr a ddarluniodd yr anthem genedlaethol a’r rhif yn cofnodi mwyafrif datganoli, ac roedd hefyd yn artist arbrofol a weithiodd gyda chyfryngau gwahanol a chrochenwaith yn hwyr yn ei yrfa. darllen mwy
Nofel ddychanol 'hwyliog a gwahanol' gan yr awdur Cardi-noir Geraint Evans
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dalybont, Geraint Evans. Gyda chyfres o bum nofel ditectif yn dilyn Gareth Prior a’i dîm yn Heddlu Dyfed-Powys dan ei felt, mae Geraint Evans wedi mentro i fyd prifysgol ddychmygol, gan ysgrifennu’i nofel gampws gyntaf, Hergest. darllen mwy
Awdur a aned yn Nhregaron yn clodfori hanes y fro mewn cyfrol newydd ar gyfer yr Eisteddfod
Yn y gyfrol hon, Hanes Tregaron a’r Cyffiniau, aiff ati i gyflwyno rhai o unigolion mwyaf lliwgar y fro – rhai’n enwogion, eraill yn llai adnabyddus, ond pawb yn cyn ddifyrred â’i gilydd. darllen mwy
Protest yn yr Eisteddfod: Cyfrol sy'n dathlu'r frwydr dros ryddid a chydraddoldeb
Gan gyffwrdd ar bopeth o’r frwydr dros y Gymraeg i’r ymgyrch dros annibyniaeth, newid hinsawdd, #MeToo a Mae Bywydau Du yn Cyfri, Mae Dros Ryddid yn trafod rhai o’r pynciau mwyaf amserol sy’n wynebu ein cenedl heddiw. darllen mwy
Cyfrol i ddysgwyr yn agor y drws at gyfrol straeon byrion newydd
Mae un o lyfrau’r cyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr pob lefel, wedi ysbrydoli cyfrol o straeon byrion newydd sbon ar gyfer lefel Mynediad. darllen mwy
Arwr Mabinogaidd i'r arddegau gan yr awdur Alun Davies
Mae’r awdur llyfrau ditectif Alun Davies wedi penderfynu mentro o fyd oedolion a throi at sgwennu nofel gyffrous newydd i’r arddegau. darllen mwy
Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr
Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gyda’r gyfrol yma hefyd wedi cael ei hysgrifennu gan ddysgwyr. Mae Y Daith (Y Lolfa) yn ddathliad o lwyddiant Cyfres Amdani, ei phoblogrwydd ymysg dysgwyr Cymraeg a’r awch am fwy o ddeunydd darllen cyfoes ac addas. darllen mwy
61-80 o 350 | 1 2 3 4 5 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |