Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Diffyg straeon byrion cyfoes Cymraeg yn arwain at gyfrol newydd

Diffyg straeon byrion cyfoes Cymraeg yn arwain at gyfrol newydd

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o saith stori fer gyfoes gan awdur newydd. Mae awdur straeon Stryd y Gwystlon, Jason Morgan, yn gobeithio y bydd ei gyfrol yn cyfrannu at yr hyn mae’n ei weld fel diffyg cyfrolau straeon byrion mewn llenyddiaeth sydd wedi bod yn adnabyddus am ei chyfoeth yn y ffurf honno.  darllen mwy

Y nofel Gymraeg fwyaf erioed yn cael ei ailargraffu
Tywyllwch, meddyginiaethau gwerin a hud hen chwedlau'n ysbrydoli nofel
Llyfr lliwio newydd Boc - y ddraig fach sy'n mynd o nerth i nerth!
Llwyddiant llenyddiaeth Gymraeg arbrofol - ailargraffu Ebargofiant
Mistar Urdd yn dod yn fyw rhwng cloriau llyfr i ddathlu canrif o'r Urdd!

Mistar Urdd yn dod yn fyw rhwng cloriau llyfr i ddathlu canrif o'r Urdd!

Gyda’r Urdd yn dathlu canmlwyddiant yn 2022, mae’n anodd credu nad oes gan Mistar Urdd lyfr yn dweud ei hanes – tan nawr! Mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd wedi’i hanelu at blant 7 i 10 oed. Mae’r Lolfa yn cydweithio gyda’r Urdd i wireddu’r syniad o ledaenu beth mae’r Urdd yn ei wneud ac yn ei gynnig fel mudiad ieuenctid. Mae’r nofel graffeg yn cynnwys tair stori ar ffurf cartwnau ac mae’r lluniau gan Sioned Medi Evans.  darllen mwy

Stori sy'n plethu dirgelwch gyda'r argyfwng hinsawdd wedi'i leoli yn ardal Eisteddfod 2022
Cymeriad unigryw o Geredigion yn ganolbwynt llyfr newydd i blant gan Valériane Leblond
“Mae gobaith yn tyfu pan rwyt ti’n credu yn yr amhosib” – nofel gyntaf Caryl Lewis i’r arddegau cynnar
Cyfrol yn dadlennu gwybodaeth newydd am enw ac arweinydd cyntaf Merched Becca

Cyfrol yn dadlennu gwybodaeth newydd am enw ac arweinydd cyntaf Merched Becca

Er bod sawl cyfrol Saesneg o safon wedi eu cyhoeddi ar helynt y Becca, dim ond un gyfrol fer yn y Gymraeg oedd ar gael – tan nawr. Mae Ar Drywydd Twm Carnabwth – Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca yn gofnod dadlennol ac astudiaeth fanwl o fywyd Thomas Rees (Twm Carnabwth), am y dylanwadau fu arno, am hanes a naws y fro, ac am yr holl anghyfiawnderau a’r tlodi a arweiniodd at y terfysgoedd yng nghanol y 19eg ganrif.  darllen mwy

Crynhoi doethinebau’r canrifoedd mewn casgliad newydd o ddiarhebion

Crynhoi doethinebau’r canrifoedd mewn casgliad newydd o ddiarhebion

Mae traddodiad llenyddol y Gymraeg yn mynd yn ôl dros fil a hanner o flynyddoedd ac un o’r pethau sydd wedi bod yn rhan amlwg o’r gwaddol hon o’r dechrau un yw diarhebion. Mae’r Lolfa newydd gyhoeddi Y Diarhebion: Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes, sef cyfrol o ddiarhebion sy’n addas i’w defnyddio heddiw.  darllen mwy

Llwyd Owen yn dychwelyd i'r cysgodion yn ei nofel newydd
‘Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen’ – Y Mabinogi yn Ysbrydoli Awdur Newydd
Datgelu cyfrinachau enwau caeau Cymru

Datgelu cyfrinachau enwau caeau Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal.  darllen mwy

Gerald Morgan yn datgelu pennod goll yn hanes y Gymraeg

Gerald Morgan yn datgelu pennod goll yn hanes y Gymraeg

Ni ddeallai neb cyn y 1990au bod dros fil o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg yn cuddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y dogfennau profeb yma’n cynnwys ewyllysiau, rhestri eiddo a llythyrau. Mae Ewyllysiau Cymraeg: Pennod Goll yn Hanes yr Iaith gan Gerald Morgan (Y Lolfa) yn llyfr dadlennol a diddorol am sawl rheswm. Mae’r gyfrol yn caniatáu i bobl ddarllen dymuniadau a geiriau olaf Cymry cyffredin o 1560 hyd at 1858.  darllen mwy

Dathlu Cymry o fri ar ddydd Gŵyl Dewi
Cyw a'i ffrindiau'n dathlu gwneud y pethau bychain
Ffordd wych o edrych ymlaen at y Chwe Gwlad

Ffordd wych o edrych ymlaen at y Chwe Gwlad

Mae Brenin y Cwis yn ôl gyda llyfr cwis newydd sbon sy’n llawn o hanes y 22 mlynedd diwethaf o gystadleuaeth y Chwe Gwlad. Dyma ffordd hwyliog o wahaniaethu rhwng y ffyddloniaid a’r cefnogwyr ‘fair weather’!  darllen mwy

Geiriadur daeareg newydd yn llenwi bwlch

Geiriadur daeareg newydd yn llenwi bwlch

Er bod yna sawl geiriadur daeareg ar gael yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, hyd at eleni, doedd dim un ar gael yn Gymraeg. Mae’r Lolfa newydd lenwi’r bwlch wrth ryddhau’r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Awdur Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear yw’r awdur, golygydd a daearegwr amlwg Dr Dyfed Elis-Gruffydd.  darllen mwy

Cyfrol o atgofion am hanes Blaenau Ffestiniog a Manod

Cyfrol o atgofion am hanes Blaenau Ffestiniog a Manod

Yr wythnos hon cyhoeddir Cynefin yr Alltud: Cylch Congl-y-Wal, Manod a ’Stiniog gan Les Darbyshire, a fu farw dros y penwythnos yn 97 oed. Mae’r gyfrol yn gofnod pwysig o hanes cymdeithasol cymuned glos dauddegau a thridegau’r ganrif ddiwethaf, ac mae’n cofnodi hanes cyfnod magwraeth yr awdur ym Mlaenau Ffestiniog.  darllen mwy

81-100 o 350 1 . . . 4 5 6 . . . 18
Cyntaf < > Olaf