Newyddion
Mewn fila crasboeth yn Umbria, mae cymeriadau’n tynnu’n groes, a chyfrinachau’n bygwth berwi drosodd…
Nofel yw hon am gwmni’n dod at ei gilydd am bythefnos o wyliau mewn un fila yn Umbria – yn deulu, ffrindiau a chydnabod. Bydd rhai yn cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf, eraill yn hen gyfarwydd ag antics y naill a’r llall, ac mae’n amlwg o’r dechrau bod tensiwn yn mudferwi. Ond mae’r lleoliad yn ddelfrydol, a diwylliant yr ardal yn drawiadol, heb sôn am yr awyr ddigwmwl sy’n cyfarch pawb bob bore. Beth all fynd o’i le, mewn difrif? darllen mwy
‘Cadwa’n driw i ti dy hun’ - Neges Caryl Lewis yn ei llyfr newydd i blant
Mae gwasg y Lolfa newydd ryddhau Guto a Dreigiau'r Nos gan Caryl Lewis. Dyma lyfr am fachgen ifanc sydd â ffrindiau anghyffredin, sef dreigiau amryliw ac amrywiol, ac mae ganddo feddwl mawr ohonynt, bob un. Yr unig broblem ydi, nid pawb sy'n gallu gweld y dreigiau hyn, ac mae cyfeillion Guto sy'n chwarae pêl dan y coed yn mynnu y dylai anghofio am 'ei ddraig wirion.' darllen mwy
Llyfr i arfogi plant a phobl ifanc yn wyneb pwysau cynyddol y cyfryngau cymdeithasol
Mewn oes sy’n gynyddol dechnolegol, mae gallu technoleg i ehangu gorwelion ein bydoedd yn syfrdanol. Ond, mae hynny’n aml yn dod â phris gan bod yna lawer o bethau negyddol all godi yn sgil y datblygiadau diweddaraf ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dipyn o gamp gwybod sut i fynd ynglŷn â’r heriau hyn, ac yn aml iawn, rydyn ni’n teimlo’n rhwystredig, ar goll, ac yn llawn pryder oherwydd y cymhlethdod, ac eisiau cymorth gan ffynhonnell ddiogel a dibynadwy. darllen mwy
Nofel i ddysgwyr, gan ddysgwr - Cân draddodiadol yn sbarduno nofel i siaradwyr Cymraeg newydd
Mae awdur sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun wedi ysgrifennu nofel i helpu dysgwyr eraill. Ysbrydolwyd nofel Ewan Smith gan y gân draddodiadol ‘Hen Ferchetan’. Mae Ewan sy’n byw ym Mae Colwyn yn ysgrifennu nofelau poced a straeon rhamantus a throsedd i gylchgronau merched, The People’s Friend a My Weekly ond dyma ei nofel gyntaf yn Gymraeg. darllen mwy
Bom Arwisgo’r Tywysog Charles wedi’i gwneud gan ‘Barnes Wallis Cymru’
Cafodd bom ei gwneud allan o diwb Horlicks mewn ymgais i atal arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon gan ddyn oedd yn cael ei adnabod fel “Barnes Wallis” Cymru. Ond ni achosodd y ddyfais – a grëwyd i ryddhau’r Cymry o “ormes y Sais” – fawr o ddifrod pan gafodd ei phrofi, gan orfodi Byddin Rhyddid Cymru (FWA) a’i harweinydd lliwgar, Cayo Evans i ailfeddwl eu cynllun. darllen mwy
Nofel sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan ddarlun enwog Salem, lle mae’r diafol yn y siôl yn taro’i gysgod yn dragwyddol...
Mae’r awdur poblogaidd Haf Llewelyn ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, sy’n dwyn y teitl Salem. Nofel yn pendilio rhwng y flwyddyn 1908 a 2016 yw hon, a gwelwn iddi ddechrau yn 1908 drwy olrhain hanes merch o’r enw Agnes neu Neta, ynghyd â’i theulu. Mae Neta yn ei chael ei hun yn feichiog, ac o’r herwydd yn wynebu llid y gymdeithas gapelyddol y mae’n trigo ynddi. Trist yw ei thynged wrth inni ddod i wybod maes o law ei bod wedi mynd i mewn i’r môr yn Llandudno. darllen mwy
‘Llinella sirol. County lines. Hynna sgynnoch chi ia?’ - Nofel sy’n mynd at asgwrn pydredig yr is-fyd cyffuriau
Y mis hwn, cyhoeddir nofel newydd sbon gan awdur sydd wedi ennill ei phlwyf ym myd cyhoeddi yng Nghymru, sef Mared Lewis. Mae Croesi Llinell yn nofel ddirgelwch sy’n llawn cymeriadau cymhleth a chofiadwy, ac yn greiddiol i’r plot, archwilir natur y syniad o le a pherthyn yn wyneb argyfwng teuluol. darllen mwy
“Mae’n rhaid i dref fach fel hon gael ff*c-yps, sti. Am be fasa pawb yn siarad fel arall?”
Mae Sêr y Nos yn Gwenu yn dilyn cyfnod ym mywydau Leia a Sam. Pan eisteddodd Sam drws nesaf i Leia ym Mlwyddyn Dau, digwyddodd rhywbeth a newidiodd popeth. Tyfodd edau anweledig rhyngddynt, edau sydd wedi eu clymu a’u tynnu at ei gilydd fyth ers hynny. Ond bymtheg mlynedd yn ddiweddarach mae bywyd yn fwy cymhleth, gyda Leia yn wynebu cyfnod o wasanaethu cymdeithasol, a Sam yn dygymod â cholled enfawr. darllen mwy
Gêm Fwrdd sy’n ail-fyw Rhyfel Glyndŵr Dros Annibyniaeth
Mae’r Lolfa newydd ryddhau gêm fwrdd newydd Gymraeg sy’n ail-fyw gwrthryfel Owain Glyndŵr. Mae bwrdd y gêm wedi ei seilio ar fap o Gymru’r cyfnod ac yn cynnwys lleoliadau’r cestyll a’r brwydrau. darllen mwy
Sharon Morgan - Actores a Mam: Hunangofiant sy’n datgelu’r heriau sy’n gwynebu merched ym myd actio.
Mae’r gyfrol yn dechrau ym 1980, pan roedd hi’n disgwyl ei phlentyn cyntaf, Steffan. Yn benderfynol o barhau i actio, cawn glywed sut roedd hi’n jyglo dramâu radio yng Nghymru gyda gwaith teledu yn Lloegr, a chwarae ambell fam feichiog fel Mrs Ellis yn Coronation Street, gyda Elsie Tanner ac Ena Sharples. darllen mwy
O’r Da i’r Direidus – Hunangofiant Aled Hall
“Dwi wedi bod yn ffodus i ganu opera ymhob cwr o’r byd, ond sdim ots ble ydw i na pha gymeriad dwi’n chwarae, pan dwi’n darllen y sgript dwi’n mynd syth ’nôl at bobol Dolgran a Phencader – nhw sydd wrth wraidd pob un cymeriad. Ma’r bois lleol wedi dod ’da fi ac wedi ymddangos ar lwyfannau opera enwog dros y byd, a hynny heb adel gytre!” darllen mwy
Cyfrol yn darlunio hen Gymru mewn lliw am y tro cyntaf
Mae gwasg Y Lolfa wedi atgynhyrchu detholiad o luniau du a gwyn i fod yn rai lliw llawn, a hynny mewn llyfr am y tro cyntaf yng Nghymru. Llwyddwyd i ail-greu’r gorffennol fel ag yr oedd, neu mor agos â phosib at hynny, gyda lluniau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r llyfr o’r enw Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun yn ddathliad unigryw o fywyd gwledig Cymru yn bennaf, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, gyda’r lluniau wedi eu dethol gan Gwyn Jenkins a’u lliwio gan y dylunydd Richard Huw Pritchard. darllen mwy
Bywyd a Bwyd Colleen Ramsey: Gwraig Colleen Ramsey yn cyhoeddi cyfrol o ryseitiau yn Gymraeg
Mae cyfrol goginio gyntaf Colleen Ramsey ar fin gyrraedd y siopau ac mae’n llawn amrywiaeth blasus o ryseitiau i blesio pawb. Mae’r llyfr dwyieithog trawiadol yn cyd-fynd â chyfres deledu gyntaf Colleen, Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd, fydd yn dechrau ar S4C ar Ragfyr yr 28ain. Mae Colleen Ramsey yn gogydd sy’n gyfarwydd i’w nifer fawr o ddilynwyr ar Instagram. Mae’n mwynhau creu prydau gwahanol a rhannu lluniau gyda’r gymuned o bobol sy’n cael blas ar fwyd. ‘Dwi’n meddwl am fwyd trwy’r amser a sut alla i fod yn greadigol,’ meddai Colleen Ramsey. ‘Dyna sut dwi’n dangos gofal a chariad i’r bobol dwi’n eu caru fwyaf!’ darllen mwy
Y Wal Goch – Cymru, Qatar a Chwpan y Byd
Wrth i ni fyw drwy oes aur i bêl-droed Cymru, mae’r gyfrol newydd hon yn rhoi sylw i un o elfennau amlycaf y llwyddiant diweddar, sef y cefnogwyr. Mewn casgliad amrywiol o ysgrifau a cherddi cawn glywed gan 18 cyfrannwr, o enwau adnabyddus fel Gwennan Harries, Dafydd Iwan a Bryn Law, i rai o’r cefnogwyr pybyr sydd wedi bod yn dyst i’r cyfan, a rhai o leisiau newydd y Wal Goch enwog. Mae’r gyfrol, Y Wal Goch: Ar Ben y Byd gan Ffion Eluned Owen (gol.), hefyd yn cynnwys dyfyniadau a lluniau gan aelodau’r Wal o bob cwr o Gymru. darllen mwy
Teithiau Bywyd Dau Gapten – y gwahaniaethau, y gorgyffwrdd, y llwybrau’n croesi...
Stori hanesyddol wir yw James a Nikolai: Teithiau Bywyd Dau Gapten gan Gareth Parry Jones (Y Lolfa). Daeth y symbyliad i ysgrifennu’r stori wedi i Gareth Parry Jones ddarganfod nifer fawr o greiriau, lluniau, dogfennau a llythyrau yn atig hen gartref ei ddiweddar fam, rhai heb weld golau dydd ers blynyddoedd. Gyda’r deunydd dechreuodd Gareth ddysgu mwy am fywyd ei daid, James Parry. darllen mwy
Hapus wrth ei hun mewn breuddwyd roc a rôl? Cleif Harpwood sy’n diosg yr haenau i gyd mewn hunangofiant ar drothwy oed yr addewid
“’Ry’n ni’n meddwl dechre grŵp,” medde Iestyn (Garlick) wrtha i un diwrnod rhwng darlitho’dd... “Pam lai?” medde fi, a dyma ddechre ar ’y mherthynas i â’r byd adloniant Cymraeg.” darllen mwy
Trioleg o nofelau noir yn cyrraedd y diwedd
Wedi pum mlynedd o ysgrifennu mae’r drioleg o nofelau tywyll sy’n cynnwys ‘Y Düwch’ ac ‘Y Dial’ gan yr awdur Jon Gower wedi cyrraedd ‘Y Diwedd.’ Y tro hwn mae’r ditectifs Tom Tom ac Emma Freeman yn ôl, nid yn unig fel dau heddwas ond fel gŵr a gwraig. Ac mae ganddynt waith i’w wneud wrth i lofrudd cudd sgubo’r byw i fyd y meirw. Ond pan mae carcharor dialgar yn camu’n rhydd ar ôl blynyddoedd yn ei gell, daw â pherygl enbyd i’w priodas. darllen mwy
Mae Cadi ar drywydd antur arall - y tro hwn, dros donnau'r môr!
Mewn llyfr newydd yng nghyfres Cadi o’r enw Cadi a’r Mor-ladron sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, mae Cadi yn ei hôl, a’i brawd bach, Mabon, yn gysgod iddi eto. Mae hon yn stori arall sy’n mynd â’r darllenwr ar daith gyfrin, wyllt – y tro hwn dros y môr. darllen mwy
Beca ddewr, y bwlis a’r byd mawr – stori un ferch a’i chariad at nofio
Mae llyfr newydd o’r enw Sblash! gan Branwen Davies (Y Lolfa) yn mynd at grombil y profiad o dyfu i fyny, a’r heriau dirifedi sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt geisio ffeindio eu traed eu hunain yn y byd. darllen mwy
Bywyd bob dydd a bwydo – llyfr sy’n hwyluso’r broses
Mae Bwydo’r Teulu gan Nia Wyn Tudor (Y Lolfa) yn llyfr sydd â’r bwriad o wneud coginio yn rhwydd, yn realistig ac yn hygyrch ar gyfer pawb, waeth beth yw natur a strwythur eu bywydau bob dydd. darllen mwy
41-60 o 350 | 1 2 3 4 5 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |