Un Nos Ola Leuad (CD - MP3)
Dyma ddarlleniad cyflawn o un o glasuron pennaf yr iaith Gymraeg. Yng nghwmni'r darllenwyr John Ogwen a Maureen Rhys daw cymeriadau' r nofel yn fyw a chyfoeth iaith lafar dyffryn Ogwen i'ch swyno. Ystyrir Un Nos Ola Leuad y nofel Gymraeg orau erioed gan feirniaid niferus, ac fe'i cyfieithwyd i sawl iaith a'i haddasu i sawl cyfrwng, ond dyma'r fersiwn lafar gyflawn gyntaf i gael ei chyhoeddi.